Yn ogystal â chwilio'r cofnod ar-lein, sef Archwilio, gellir hefyd cysylltu â Chofnod Amgylchedd Hanesyddol Gwynedd yn uniongyrchol. Gellir gwneud cais am wybodaeth mewn sawl ffordd
• Ffôn
• Llythyr
• E-bost
• Ffacs
Mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru wedi cynhyrchu Polisi Mynediad a Chodi Tâl sy'n manylu ar y mathau o wybodaeth sydd ar gael o'r CAH, beth gellid ei gadw yn ôl, a'r rhesymau dros gadw gwybodaeth yn ôl. Ar hyn o bryd, mae modd lawrlwytho ffurflenni ymholi, sy'n ymwneud â darparu gwybodaeth CAH, o wefan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd (www.heneb.co.uk), neu maen nhw ar gael ar gais. Gellir hefyd lawrlwytho Polisi Mynediad a Chodi Tâl Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru.
Dylid llenwi'r ffurflen ar gyfer pob un ymholiad, er na fyddai'n rhaid llenwi mwy o ffurflenni ar gyfer ymweliadau dilynol sy'n ymwneud â'r un ymholiad.
Mae croeso i unrhyw un ymweld â'r CAH yn bersonol, ond rydym yn gofyn ichi drefnu apwyntiad ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod staff CAH ar gael i gynorthwyo'r ymholwr. Un rhan yn unig o rôl staff CAH yw gwasanaethu ymholiadau, felly mae'n hanfodol gwneud hyn.
Bydd ymholiadau CAH yn cael eu trin yn ddi-dâl i unigolion preifat ac ymchwilwyr academaidd.
Ni cheir defnyddio Archwilio ar gyfer ymholiadau masnachol neu ymholiadau sy'n ymwneud â datblygiad. Bydd angen i staff CAH barhau i ddelio â'r rhain ac mae'n debygol y codir tâl amdanyn nhw, ar sail adfer costau. Cysylltwch â'r CAH yn uniongyrchol i gael mwy o fanylion.
Mae'r CAH ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Gwener, trwy apwyntiad yn unig, rhwng 10am a 4:30pm. Mae fel rheol ar gau am ginio rhwng 1pm a 2pm.
Cysylltwch â'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn:
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig oherwydd anabledd, byddem yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i ni wrth drefnu'ch apwyntiad er mwyn i ni allu paratoi ar gyfer eich ymweliad.
Gofynnir i ymwelwyr â'r CAH lofnodi llyfr ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth yn y brif swyddfa, oherwydd rhesymau'n ymwneud â diogelwch.
Mynd i brif wefan GAT yn www.heneb.co.uk
Chwilio cofnodion Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill Cymru www.archwilio.org.uk